Ha ha
Show them the Welsh version
Cyngor ar gyfer y rhai syn frwdfrydig am y rheilffyrdd ac syn ymweld â gorsafoedd ar y rhwydwaith Rheilffyrdd Cenedlaethol
Rhagarweiniad
Mae holl Gwmnïau Gweithredu Trenau Prydain a Network Rail yn croesawur rhai syn frwdfrydig am y rheilffyrdd iw gorsafoedd. Bwriad y canllawiau hyn yw sicrhau eich bod yn cael profiad diogel a llawn mwynhad wrth i chi fwynhau eich diddordeb.
Cyn i chi fynd ar y platfform
Mewn gorsafoedd mawr, rhowch wybod ir Rheolwr/aig Gorsaf ar Ddyletswydd eich bod yno, os gwelwch yn dda. Bydd hyn yn sicrhau bod staff yr orsaf yn ymwybodol eich bod yn yr orsaf ac y gallant fynd rhagddynt gydau dyletswyddau heb bryderu ynglŷn â pham rydych chi yno. Mewn gorsafoedd llai, dylech sicrhau eich bod yn rhoi gwybod i aelod o staff yr orsaf am eich gweithgareddau. Efallai y byddwch angen tocyn platfform i gael mynediad ir platfform.
Ar blatfform yr orsaf
Dylech sicrhau eich bod yn ymddwyn yn synhwyrol ac mewn modd diogel bob amser. Cofiwch y canlynol:
§ Cadwch yn glir oddi wrth ymyl y platfform, a thu ôl ir llinellau melyn sydd yno am resymaun ymwneud â diogelwch.
§ Peidiwch â thresmasu ar unrhyw ran or rheilffordd nad ywn agored i deithwyr.
§ Peidiwch â dringo ar unrhyw adeiledd nac ymyrryd ag offer platfform.
§ Gwnewch yn siŵr nad ydych yn achosi rhwystr i unrhyw offer nac arwyddion signal syn hanfodol i sicrhau bod y rheilffyrdd yn rhedeg yn ddiogel.
§ Peidiwch â gwisgo unrhyw beth syn debyg o ran lliw i ddillad diogelwch, fel siacedi gwelededd amlwg, gan y gallai hyn achosi dryswch i yrwyr neu weithwyr eraill y rheilffordd.
§ Ceisiwch osgoi ymgasglu ger mannau prysur ar y platfform (e.e. mannau gwybodaeth i gwsmeriaid, sgriniau syn dangos manylion trenau syn ymadael, mannau aros, seddau, etc.) neu unrhyw le a allai ymyrryd â dyletswyddau staff yr orsaf.
§ Byddwch yn ymwybodol or hyn sydd och cwmpas. Hefyd, gofynnwn yn garedig i chi wneud nodyn o unrhyw ymddygiad a gweithgareddau anarferol a rhoi gwybod i aelod o staff os gwelwch unrhyw beth amheus neu, mewn achosion mwy difrifol, ffoniwch yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ar 0800 40 50 40. Mewn argyfwng, ffoniwch 999. Gall eich presenoldeb mewn gorsaf fod o gymorth mawr i ni fel llygaid a chlustiau ychwanegol, a gall fod yn fuddiol o ran diogelwch.
Tynnu Lluniau
Caniateir tynnu lluniau mewn gorsafoedd os ydych yn gwneud hynny ar gyfer defnydd personol. Os ydych yn tynnu lluniau masnachol, maen rhaid i chi gael caniatâd ymlaen llaw oddi wrth y cwmni trên priodol neu oddi wrth gwmni Network Rail yn ei 17 prif orsaf. Mewn gorsafoedd prysur, gall defnyddio trybedd fod yn rhwystr peryglus i deithwyr ac efallai y byddwch yn cael cais i beidio â defnyddio un. Hefyd, rhaid cadw coesaur drybedd i ffwrdd oddi wrth ymyl y platfform a thu ôl ir llinellau melyn. Ni chaniateir tynnu lluniau fflash ar blatfformau gan y gallai hyn dynnu sylw gyrwyr trenau a staff syn anfon trenau ar eu ffordd ac felly, gallai fod yn beryglus. Hefyd, ni chewch dynnu lluniau o offer diogelwch fel camerâu teledu cylch caeëdig.
Is-ddeddfaur Rheilffyrdd
I sicrhau teithiau didrafferth a diogelwch ar y system reilffyrdd (syn cynnwys teithwyr, staff, eiddo ac offer), rhaid i bawb ymlynu wrth yr Is-ddeddfau. Gallwch gael copi or Is-ddeddfau yn y mwyafrif o orsafoedd sydd â staff, a gallwch eu lawrlwytho oddi ar wefan yr SRA.
Yn Gyffredinol
Un o brif flaenoriaethaur Cwmnïau Trên yw sicrhau bod eu teithwyr au staff yn ddiogel. O bryd iw gilydd, maen bosibl y bydd staff gorsaf yn gofyn i chi symud i ran arall or orsaf neu adael yr orsaf yn gyfangwbl. Dylai staff yr orsaf fod yn fodlon egluro pam fod angen gwneud hyn ac os ydych yn teithio ymlaen ar drên, maen bosibl y byddant yn gofyn i chi aros yn y mannau aros arferol gyda theithwyr eraill. Os yw hyn yn digwydd, ufuddhewch mewn ewyllys da gan fod rhaid ir staff ystyried nifer o bethau gan gynnwys diogelwch yr holl deithwyr, ac mae ganddynt hawl i wneud penderfyniadau fel hyn.
Diolch i chi am ddarllen a chydymffurfio âr canllawiau hyn. Gobeithiwn y bydd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol i chi pan fyddwch yn ymweld â gorsaf y tro nesaf.